Gweithdy DPP: Amrywio Incwm; Gwerth Celf ac Artistiaid 

Hwylusydd: Laura H Drane 

Dyddiad ac Amser 

Dydd Mercher, 21 Ebrill, 1.00pm – 5.00pm 

Cynhelir y sesiwn hon ar Zoom 

Digwyddiad 

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn cynnal gweithdy Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) sy’n anelu at gynorthwyo artistiaid ac unigolion sy’n gweithio ym myd y celfyddydau i amrywio ffynonellau’u hincwm. Mae’r digwyddiad hwn yn ymateb uniongyrchol i arolwg diweddaraf VAGW ‘COVID-19 a’r celfyddydau gweledol yng Nghymru’ sy’n canolbwyntio ar un o’r tair prif flaenoriaeth a amlygir. Bydd y gweithdy’n caniatáu unigolion i deimlo’n fwy hyderus wrth ystyried amrywio incwm a sut mae rhoi gwerth ar amser artist. 

Drwy fynychu’r digwyddiad hwn byddwch yn gallu : 

  • Deall cyllidebu sylfaenol; sut i lunio cyllideb, termau allweddol, a’r hyn i’w gynnwys mewn cyllideb. 
  • Amcangyfrif ffigurau gwariant – tâl teg, ayyb. 
  • Deall y gwahanol ddewisiadau cyllido sydd ar gael yn y sector celfyddydau – mathau a ffynonellau 
  • Dod i gytundeb ynglŷn  â thelerau / amodau tâl gyda sefydliadau, lleoliadau ac unigolion yn hyderus. 

Faint fydd angen i chi ei ennill? Beth yw gwerth eich amser? 

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer y rheiny sy’n anghyfarwydd â chyllidebu a’r rheiny sy’n awyddus i loywi eu gwybodaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud cyllideb ardderchog. Bydd cyfle i holi cwestiynau sy’n codi yn y maes yn ystod y gweithdy. 

Bydd y gweithdy pedair awr yn cynnwys trafodaethau grŵp, tasgau grŵp, gweithgareddau unigol a thoriadau cysur. 

Sut i ymuno 

Rydym yn awyddus iawn i groesawu’r ystod eangaf o bobl ledled Cymru i fynychu’r gweithdy DPP  hwn  

Rydym yn gwahodd yr ystod eangaf o bobl o bob rhanbarth yng Nghymru sydd angen amrywio eu hincwm yn y celfyddydau gan gynnwys (ond nid yn gyfan gwbl) artistiaid gweledol / gwneuthurwyr / technegwyr / ymarferwyr / curaduron / beirniaid ac ysgolheigion  / gweithwyr celf o fewn sefydliadau ar bob lefel. 

I archebu eich lle llenwch y ffurflen google hon erbyn canol dydd Mawrth 20 Ebrill

Os gwelwch yn dda, nodwch yn eich e-bost os oes gyda chi unrhyw anghenion o ran hygyrchedd – dehongli BSL, cyfieithu Cymraeg neu iaith arall, capsiynnu, ayyb. Bydd angen i ni gael gwybod ynglŷn ag unrhyw anghenion erbyn dydd Mawrth, 20 Ebrill. Efallai na fyddwn ni’n gallu diwallu eich anghenion oni chawn ni rybudd mewn da bryd 

Leave a Comment