Sgyrsiau Rhanbarthol: Cyfle i ddylanwadu ar dirwedd y celfyddydau gweledol yng Nghymru 

Hwylusir gan Helga Henry 

Dyddiadau ac Amseroedd 

Y Gogledd Mawrth 11 Mai, 2.00pm – 4.15pm 

Y Canolbarth a’r Gorllewin Mercher 12 Mai, 11.00am – 1.15pm 

Y De Iau 13 Mai, 10.00am – 12.45pm 

Cynhelir y sesiynau hyn ar Zoom 

Digwyddiad 

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn cynnal tair sgwrs ranbarthol arbennig sy’n anelu at adnabod dyheadau’r sector ar gyfer rhwydwaith celfyddydau gweledol ffyniannus a chefnogol i Gymru. Bydd pob digwyddiad yn ymateb i arolwg diweddaraf VAGW ‘COVID-19 a’r celfyddydau gweledol yng Nghymru’ gan ganolbwyntio ar y prif flaenoriaethau a amlygir gan bob rhanbarth. Bydd y sgyrsiau hyn yn galluogi VAGW i ddeall yr hyn sy’n digwydd ymhob rhanbarth. 

Drwy fynychu’r digwyddiad hwn byddwch yn gallu: 

  • Cyfrannu at ddatblygiad gwaith VAGW er mwyn cefnogi eich ymarfer neu alwedigaeth artistig: 
  • Ystyried ystod o gamau datblygu proffesiynol i’w cymryd nawr neu i’w datblygu dros amser. Ceir pwyslais arbennig ar artistiaid a phobl broffesiynol sy’n datblygu a sy’n dod o gefndir  ethnig a diwylliannol amrywiaethol, sy’n profi hiliaeth yn ein cymdeithas – yn enwedig pobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd, o’r Dwyrain Canol, o Ddwyrain Asia, o Dde Asia, Brodorol, o’r Ynysoedd Tawel, o dras Affro-LadinX  (i enwi ychydig) a phobl o dras gymysg. 
  • Ystyried y camau ymarferol y gall VAGW eu cymryd er mwyn gwella’r  ecoleg ddiwylliannol yng Nghymru drwy lobïo a bod yn eiriol dros werth cyfraniad y celfyddydau gweledol i’r economi yng Nghymru 

Rydym felly’n annog cyfranogwyr i ddod gyda’u syniadau a’u cynigion ar sut y gall rwydwaith celfyddydau gweledol gefnogi eich ymarfer artistig, proffesiwn neu alwedigaeth 

Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud ynglŷn ag anghenion eich rhanbarth yng nghyd-destun rhwydwaith celfyddydau gweledol i Gymru. Dewch i rannu EICH profiadau a’ch barn. 

Sut i ymuno 

Rydym yn awyddus iawn i groesawu ystod eang o bobl ledled Cymru i gyfrannu at y drafodaeth a hybu’r sector. 

Rydym yn gwahodd yr ystod eangaf  posib  o bobl o bob rhanbarth sy’n ymwneud yn bersonol ac / neu’n broffesiynol â’r celfyddydau gweledol a chymhwysol mewn rhyw ffordd, gan gynnwys (ond nid yn gyfan gwbl)  artistiaid gweledol  / gwneuthurwyr / technegwyr / ymarferwyr / curaduron / beirniaid ac ysgolheigion  / gweithwyr celf o fewn sefydliadau ar bob lefel. 

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen gofrestru fer hon.

Os gwelwch yn dda, nodwch yn eich e-bost os oes gyda chi unrhyw anghenion o ran hygyrchedd – dehongli BSL, cyfieithu Cymraeg neu iaith arall, capsiynnu, ayyb. Bydd angen y wybodaeth ynghylch unrhyw anghenion erbyn dydd Llun, 12 Ebrill. Efallai na fyddwn ni’n gallu diwallu eich anghenion oni chawn ni rybudd mewn da bryd. 

Cefnogaeth ariannol 

Rydym yn ymwybodol nad oes modd i VAGW fod yn wirioneddol gynrychiadol oni bai ein bod yn cydnabod bod rhwystrau yn nacau pobol rhag cyfranogi gan fod yr amser yn golygu colli incwm potensial. 

Rydym yn cynnig bwrsari (sydd ar gael i naw unigolyn, o dri rhanbarth) yn rhan o’n hymrwymiad i hygyrchedd lawn. 

Meini prawf 

Gan mai amcan y bwrsari yw cefnogi hygyrchedd, bydd modd i chi ymgeisio amdano os ydych chi’n 

  1. derbyn Credyd Cynhwysol; neu 
  1. wedi cael eich heffeithio’n ariannol yn ddirfawr gan COVID-19; neu  
  1. yn ennill yr isafswm cyflog gwladol; 

ch)  neu, fel arall, ni fyddai modd i chi fynychu’r oherwydd cyfyngiadau ariannol. 

Sut i ymgeisio am le ar fwrsari 

Er mwyn gwneud cais am fwrsari a wnewch chi gynnwys paragraff byr yn esbonio pa feini prawf sy’n cyfateb i’ch sefyllfa os gwelwch yn dda. Rhannwch yr hyn o wybodaeth ag sy’n gysurus i chi gan gynnwys digon o wybodaeth i’n galluogi ni ddod i benderfyniad. 

Dyfernir y bwrsari i’r tri pherson cyntaf ym mhob rhanbarth sy’n gwneud cais amdano, sy’n ateb y meini prawf. Dim ond Rhys Bugler, y Cydlynydd Digwyddiadau fydd yn gweld y ceisiadau am fwrsari a dyfernir yn ôl trefn y ceisiadau cymwys sy’n dod i law. Ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda thrydydd parti ac ni chedwir y wybodaeth unwaith y gwneir y dyfarniadau, 

Rhaid mynychu’r sesiwn er mwyn hawlio’r bwrsari. 

Leave a Comment