EGWYL: Bwrsari a Rhaglen Fentora

Mae EGWYL, a drefnir gan Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn cynnig rhaglen fentora sy’n cynnwys pedwar gweithdy cydweithredol sy’n seiliedig ar fentora cymheiriaid, mentor penodedig ar gyfer mentora un i un, a bwrsari o £3000 – ar gyfer pum artist sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru.

Mae’r cyfle i geisio am fwrsari wedi dod i ben

Pwy all wneud cais

Gall artistiaid o liw sydd â chysylltiad â Chymru, ac sydd dros 18 oed, wneud cais. Os nad ydych chi’n ystyried eich hun yn artist gweledol ond bod eich ymarfer yn croesi drosodd i’r celfyddydau gweledol, gallwch wneud cais.

Gall mentoreion fod ar unrhyw gam o’u hymarfer / gyrfa / bywyd: datblygol neu brofiadol, heb addysg uwch neu radd, erioed wedi cyhoeddi/arddangos gwaith o’r blaen neu wedi cyhoeddi gwaith /wedi arddangos o’r blaen.

Datblygwyd y rhaglen hon gan fod anghydraddoldeb diymwad yn y celfyddydau o ran cyfleoedd, mynediad, perthyn a thriniaeth deg i bobl gydag etifeddiaeth Affricanaidd, Caribïaidd, y Dwyrain Canol, Dwyrain Asia, De Asiaidd, Brodorol, Ynysoedd y Môr Tawel, Affro-Latino (i enwi ychydig) a phobl gydag etifeddiaeth gymysg, ac yn enwedig felly os yw eu hunaniaethau hefyd yn croestorri â hunaniaethau ymylol eraill. Gall hyn gynnwys anabledd corfforol, anabledd gweledol, bod yn F/fyddar, anabledd dysgu, niwroamrywiaeth; rhywioldeb, bod yn drawsryweddol, bod yn genderqueer; bod ar incwm isel, a bod yn geisiwr lloches neu’n ffoadur. Nid yw diwylliannau cefnogi yn y sector celfyddydau gweledol yng Nghymru wedi’u strwythuro i gynnig cefnogaeth mewn ffordd ofalgar a manteisiol, a dyna pam mae’r rhaglen hon yn ceisio cefnogi artistiaid o liw sy’n byw yng Nghymru yn benodol.

Mentora

Bydd y gweithdai cydweithredol sy’n seiliedig ar fentora cyfoedion yn cael eu harwain gan y Cydlynydd Mentoriaid Sadia Pineda Hameed (sydd hefyd yn artist sy’n byw yng Nghymru). Cynhelir y pedair sesiwn hyn unwaith yr wythnos drwy Zoom ar hyd mis Mai, a byddant yn annog rhannu arferion a datblygu sut rydym yn eu mynegi, deall rhwystrau i wneud gwaith neu symud ymlaen, ac edrych ymlaen at ble yr hoffem fod. Bydd y gweithdai yn cynnwys trafodaethau anffurfiol a thasgau grŵp syml i fagu hyder a chyfeillgarwch, a gellir siapio’r cynnwys gyda’r mentoreion. Bydd dyddiadau’r gweithdai hyn yn cael eu penderfynu gan y 5 mentorai i gyd-fynd orau â’u hamserlenni.

Bydd y mentora un i un yn cynnwys sgwrs unigol gyda’r Cydlynydd Mentoriaid Sadia Pineda Hameed a churadur/cyfarwyddwr artistig arall sy’n seiliedig yng Nghymru i wir ddod i adnabod pob mentorai, a beth sydd angen arno/arni gan fentor. Yna bydd mentor yn cael ei ddewis ar gyfer y mentorai. Bydd ef/hi yn berson creadigol profiadol yn y ffurf ar gelfyddyd berthnasol o’r DU (neu, gyda dyfodiad Zoom, yn rhyngwladol). Bydd y mentorai a’r mentor yn penderfynu gyda’i gilydd sut yr hoffent symud ymlaen, p’un ai yn sesiynau Zoom un i un rheolaidd bob 3 mis, neu amser ar gyfer darllen/gwylio gwaith a darparu adborth, mentora â ffocws ar brosiect mawr penodol sydd ar ddod, neu arfer mwy ehangach a datblygu gyrfa.

Bwrsari

Dyfernir bwrsari o £3000 i bob mentorai i gefnogi ei ymarfer ym mha bynnag ffordd y mae’n dewis. Telir y fwrsariaeth ar ddechrau’r rhaglen fentora, ac nid oes rhaid i’r derbynwyr ddangos tystiolaeth o sut y caiff ei defnyddio.

Cronfa Mynediad

Bydd cronfa mynediad ar gael i fentoreion trwy gydol y rhaglen, i’w defnyddio yn ystod y gweithdai mentora a mentoriaeth un i un – felly ni fydd angen i’r mentoreion ddefnyddio eu bwrsariaeth ar gyfer gofynion mynediad.

Gall mentoreion naill ai ofyn am offeryn mynediad i ni ei drefnu ar eu cyfer, fel dehonglydd BSL, cyfieithu, sgrindeitlo byw ac ati, neu gallant ofyn am dynnu arian o’r gronfa mynediad am resymau fel gofal plant, amser i ffwrdd o’r gwaith ac ati. Wrth ofyn am dynnu arian o’r gronfa fynediad, ni ofynnir i’r mentoreion roi rheswm. Bydd eu ceisiadau yn mynd trwy’r Cydlynydd Mentoriaid Sadia Pineda Hameed.

Sut i wneud cais / y sgwrs

I ddewis y 5 mentorai, hoffem gynnal sgyrsiau i ddeall ymarfer, profiad presennol, a chamau nesaf pob unigolyn yn well – ac yna dewis y 5 person y credwn a all elwa orau o’r rhaglen hon.

Ni fydd pobl yn cael eu ‘hasesu’ ar ba mor brofiadol ydyn nhw nac ar ehangder eu corff o waith. Yn hytrach, dewisir y 5 mentorai llwyddiannus yn seiliedig ar botensial, a pha mor fuddiol fyddai rhaglen fel hon iddynt. Rydym yn deall y gallai rhwystrau fod wedi atal unigolyn talentog iawn rhag arddangos, ac i’r gwrthwyneb efallai nad yw hanes arddangos blaenorol yn adlewyrchu rhwystrau na phrofiad yr unigolyn yn ei ffurf ar gelfyddyd. Dyma pam yr hoffem gael sgyrsiau yn hytrach na darllen ffurflenni cais.

Ni fydd Datganiadau o Ddiddordeb yn cael eu hasesu, byddant yn rhoi pwyntiau trafod i ni ar gyfer ein sgwrs yn unig. Yna byddwn yn cael sgwrs 15 munud gyda phob person cymwys sy’n gwneud cais trwy Zoom (neu ddewis arall os yw hyn yn gosod her o ran hygyrchedd), a bydd y sgwrs yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn y Datganiad o Ddiddordeb. Mae’n debygol y gofynnwn i chi fanylu ar eich atebion. Bydd y cydlynydd mentoriaid Sadia Pineda Hameed ac un curadur/cyfarwyddwr artistig o Gymru yn arwain y sgwrs.

Mae’r sgwrs hon yn anelu at fod yn fuddiol i bawb, gan gynnwys y rheiny nad ydynt yn llwyddo i ennill lle ar y rhaglen – mae’n gyfle i guraduron a chyfarwyddwyr artistig ar draws y sector celfyddydau gweledol yng Nghymru gwrdd ag artistiaid nad ydynt wedi gweithio gyda nhw o’r blaen a dysgu amdanynt, ac ‘agor y drws’ trwy estyn manylion cyswllt uniongyrchol, cynnig adnoddau, gwybodaeth am gyfleoedd a sesiynau un i un yn y dyfodol er mwyn ateb cwestiynau, neu hyd yn oed fentoriaeth / ymweliadau stiwdio. Mae’r curadur/cyfarwyddwr artistig sy’n rhan o’r sgwrs wedi ymrwymo i ‘agor y drws’ i’r artistiaid y mae’n cwrdd â nhw mewn ffordd ystyrlon, ac wedi llofnodi Addewid Adfer Diwylliannol Mentoriaid VAGW.

Rydym yn gobeithio siarad â phob person cymwys sy’n gwneud cais, fodd bynnag, os byddwn yn derbyn nifer digyffelyb o ddatganiadau o ddiddordeb, efallai y bydd yn rhaid i ni lunio rhestr fer ar sail y ffurflenni a gyflwynwyd. Yn y sefyllfa hon, cynigir sgwrs / ymweliad stiwdio ar ryw adeg i’r rheiny nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd er mwyn dysgu am eu harferion, ac i ymestyn cefnogaeth.

Dyddiadau allweddol

Derbyn datganiadau o ddiddordeb rhwng 24ain Mawrth 2021 – canol nos 11eg Ebrill 2021

Cadarnhau cymhwyster a threfnu eich sgwrs:  

12fed Ebrill 2021

Cynnal Sgyrsiau:

15fed – 23ain Ebrill 2021

Rhaglen Fentora:

4 diwrnod o ganol mis Mai – canol mis Mehefin 2021

Cymorth / cwestiynau

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch datganiad o ddiddordeb neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rachel Kinchin yn visualartsgroupwales@gmail.com

Gwybodaeth bellach / manylion

Nid oes angen darllen yr adran hon er mwyn gwneud datganiad o ddiddordeb, ond mae wedi’i chynnwys ar gyfer y rheiny sy’n ceisio mwy o wybodaeth am y rhaglen hon.

Pwy yw VAGW.

Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yw’r Gymdeithas Broffesiynol annibynnol ar gyfer lleoliadau a sefydliadau yng Nghymru sy’n cynhyrchu ac yn cyflwyno celfyddydau gweledol cyfoes. Mae VAGW yn bodoli er mwyn cryfhau llais y sector celfyddydau gweledol yng Nghymru trwy gydweithrediad, partneriaeth, eiriolaeth a hyfforddiant.

Sefydlwyd VAGW yn y 1990au ac ar hyn o bryd mae ganddo 22 aelod-sefydliad sy’n cynnwys cyllid refeniw a phrosiect; gyda lleoliadau a hebddynt; ac yn cynrychioli amrywiaeth o raddfeydd gweithredu a chylchau gwaith daearyddol. Ar hyn o bryd mae’n sefydliad aelodaeth cwbl wirfoddol gyda ffi aelodaeth flynyddol.

Sut cafodd y rhaglen hon ei datblygu

Yn 2019 ymgymerodd VAGW â chyfres o ddigwyddiadau ymgynghori i ddeall mwy am anghenion y sector celfyddydau gweledol yng Nghymru, ac o’r rhain lluniwyd rhestr o flaenoriaethau strategol ar gyfer datblygiad y sector i VAGW eu hystyried.

Amharodd cychwyniad Covid ar broses ddatblygu VAGW ac yn Haf 2020, galluogodd Cyngor Celfyddydau Cymru i’r Cydweithiwr Celfyddydol a’r Ymgynghorydd Annibynnol, Mandy Fowler, i gydweithio â VAGW i gefnogi cynllunio proses ddatblygu VAGW.

Gan gydnabod bod pandemig Covid yn cael effaith ar fywydau a gwaith artistiaid a gweithwyr celfyddydol yn y sector a bod twf y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi symbylu ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau ac anghyfiawnderau economaidd a chymdeithasol strwythurol ar draws cymdeithas, gan gynnwys y sector diwylliannol, roedd angen adnewyddu blaenoriaethau strategol 2019. Cynhaliwyd arolwg amser-sensitif o’r sector celfyddydau gweledol i gael gwell dealltwriaeth o anghenion a blaenoriaethau’r sector a’r bobl sy’n rhan ohono, i helpu VAGW i sicrhau Cyllid Adferiad Diwylliannol i ymgymryd â phroses ddatblygu o’r newydd. Mae’r cyllid hwn yn galluogi VAGW i ymgymryd â chyfnod dwys o hyfforddi, mentora a datblygiad proffesiynol i bobl sy’n ymwneud â’r sector, sy’n llywio ac sy’n digwydd ochr yn ochr â gwaith strategol i drawsnewid model busnes ac aelodaeth VAGW a chynlluniau cyflwyno ar gyfer y dyfodol. Un o brif flaenoriaethau’r arolwg hwnnw oedd cydnabod yr angen i ddiwallu anghenion datblygiad proffesiynol artistiaid o liw.

Mae panel cynghori taledig o ymarferwyr sy’n gweithio yng Nghymru a’r Unol Daleithiau wedi cyfrannu at strwythur a datblygiad cyffredinol y rhaglen; bydd y panel cynghori yn parhau i gefnogi’r Cydlynydd Mentoriaid a datblygiad y Mentoreion.

Leave a Comment