Datganiad Black Lives Matter oddi wrth Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac yn cydsefyll gyda Black Lives Matter ledled y byd.

Fel cydweithfa o sefydliadau ar draws Cymru, rydym yn deall bod gennym rôl er mwyn newid yr anghydraddoldeb sy’n rhemp ac yn cydnabod ein cyfrifoldeb i wneud hynny lle bynnag a phryd bynnag y gallwn.

Mae ein gweithlu, ein byrddau rheoli, a’n rhaglenni artistig yn llethol o wyn. Dros amser, mae’r targedau rydym wedi eu gosod i ni ein hunain yn ein priod sefydliadau a’r camau rydym wedi eu cymryd wedi methu â gwneud sector y celfyddydau gweledol a chymhwysol yn lle diogel a chynhwysol fel bo’r BIPOC yn ei geisio ac yn mynd i’r afael ag ef.

Byddwn yn gweithio gydag artistiaid a chynulleidfaoedd, sydd efallai yn canfod ein lleoliadau a’n sefydliadau yn llefydd nad ydynt yn teimlo’n gysurus ynddynt, a hynny er mwyn sicrhau perthnasoedd y gellid ymddiried ynddynt.

Mae rhai aelodau VAGW eisoes wedi cyhoeddi datganiadau ac yn uniongyrchol weithredol wrth ymateb i’r mudiad BLM; gallwch eu darllen drwy ddilyn y dolenni isod (a byddwn yn ychwanegu at y rhestr wrth i eraill gael eu cyhoeddi).

Am nifer o resymau, mae angen i addewid VAGW, fel consortiwm, fod yn benodol ar wahân i ddatganiadau aelodau unigol a hynny, yn anad dim, oherwydd y gallwn ar y cyd gyflawni mwy.  Bydd peidio â gweithredu ac aros yn dawel, yn dangos ein bod yn cydsynio a’r drefn bresennol.

Mae ein haddewid heddiw yn bell o fod yn gynhwysfawr – byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn wrth i’r grŵp barhau i ymgynghori, ystyried a chytuno ar weithrediadau a thargedau. Mae gennym lawer i’w ddysgu ac i’w dad-ddysgu ac rydym yn gwybod bod hyn yn broses barhaus ac nid mater o ddatrysiad sydyn. Ar hyn o bryd rydym yn ceisio symud tuag at atebolrwydd. Golyga hyn ein bod, fel sector celf, yn crynhoi a chyhoeddi data cyflawn i amlygu’r anghyfartaleddau nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n ddigonol.

Nid yw atebolrwydd ar ei ben ei hun yn ddigon i sicrhau ymddiriedaeth. Fel corff aelodaeth, mae gan VAGW waith mawr o’i flaen i wireddu’r uchelgais i fod yn gwbl agored a chynhwysol.  Rydym wedi cychwyn ar y broses. Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r sector yn 2019, dyma ddysgu mai’r hyn yr oedd pobl yn ei werthfawrogi fwyaf oedd bod VAGW yn symud tuag at

Cynrychioli’r garfan fwyaf eang o bobl sy’n ymroi i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru’.

Ac ym mis Rhagfyr, pleidleisiodd yr aelodau i adolygu a gweithredu’r argymhellion [link] tuag at fodel o amrywiaeth sy’n agored a thryloyw.

Mae sector y celfyddydau gweledol yn barod am newid.  Yn ganolog i hyn fydd cymryd camau at ddod â hiliaeth sefydliadol i ben – blaenoriaeth sefydlog ar yr agenda yn ein cyfarfodydd yn y dyfodol. Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru gyda manylion ychwanegol ar yr holl weithgaredd a mesurau y bydd y grŵp yn gweithredu arnynt wrth ymgeisio am sector gwirioneddol amrywiol.

Mewn undod Aelodau VAGW

Leave a Comment