Datblygu rhwydwaith y celfyddydau gweledol i Gymru

Yn 2019 gwnaeth VAGW (Visual Arts Group Wales) ymgymryd ag ymchwil i’r sector a gwneud gwaith ymgynghori gyda chymorth gan gronfa Datblygu Busnes Cyngor Celfyddydau Cymru. Amcanion y prosiect oedd:

  • Deall anghenion a blaenoriaethau’r sector celfyddydau gweledol yng Nghymru 
  • Penderfynu ar ddisgwyliadau’r sector ynghylch sut olwg ddylai fod ar rwydwaith y celfyddydau gweledol i Gymru
  • Defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu ffocws strategol clir i VAGW ar gyfer y tair i bum mlynedd nesaf

Casglwyd barn y sector drwy sesiynau ymgynghori yn Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd, arolwg ar-lein, a chyfweliadau gyda rhwydweithiau celfyddydau gweledol eraill ledled y DU ac Iwerddon.  

Wrth ddadansoddi safbwyntiau pobl, gwelsom fod nifer o themâu yn nodweddu eu huchelgais ar y cyd am gael rhwydwaith y celfyddydau gweledol i Gymru, gan gynnwys: 

  • Y lefel isaf o reolaeth a’r lefel uchaf o dryloywder 
  • Diffinio’r rhwydwaith drwy ethos a rennir (yn hytrach na’i  gyfansoddiad) a sicrhau cynrychiolaeth eang
  • Yr angen am ddull cadarn ac annibynnol o hyrwyddo’r celfyddydau gweledol ac undeb artistiaid
  • Yr angen am ddull ysgrifennu a thrafodaeth fwy beirniadol yn ymwneud â’r celfyddydau gweledol yng Nghymru 
  • Datblygu ymagwedd fwy ystyrlon a chreadigol tuag at ddwyieithrwydd
  • Cysylltiadau drwy ardaloedd lleol a chreu partneriaethau rhyngwladol 
  • Herio modelau parod a datblygu arferion gwaith newydd 
  • Pwysigrwydd cyfleoedd rhwydweithio ffisegol / oddi ar y rhwydwaith 

Gwnaethom ddefnyddio’r themâu i fod yn sail i set o 12 o argymhellion, yn ogystal â rhoi syniad o sut olwg fyddai ar rwydwaith y celfyddydau yng Nghymru yn y dyfodol. Mae aelodau presennol VAGW wedi pleidleisio i ymgymryd â cham pontio ar gyfer y rhwydwaith, er mwyn trafod yr argymhellion, eu cymeradwyo a gweithredu arnynt. Gallwch gael hyd i ragor o wybodaeth a dilyn ein cynnydd ar wefan VAGW a thrwy ein cyfrif Twitter.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â visualartsgroupwales@gmail.com


Er y sefydlwyd VAGW yn y 1990au mae celfyddyd weledol yng Nghymru yn parhau i newid gan ymateb i weithredu sydd â chyswllt â’r gymdeithas, cyd-raddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant, yr agenda lles a iechyd, dad-goloneiddio technoleg ddigidol, globaleiddio, effaith ddinesig a gwleidyddiaeth hunaniaeth.

Yn ogystal, dros y blynyddoedd diweddar, mae’r celfyddydau gweledol wedi profi bygythiadau a gwendid cynyddol wrth i’r sector barhau i greu gwaith o safon uchel er budd y cyhoedd o fewn cyfyngiadau economaidd mwy cul ac hinsawdd ariannu cystadleuol – sy’n effeithio’n arbennig ar artistiaid llaw-rydd.

Gan gydnabod yr amodau hyn mae VAGW yn arwain prosiect ar ‘ddatblygu sefydliadol’, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y prosiect byr hwn, â ffocws pendant, yn cynorthwyo VAGW gyda chynhyrchu cynllun strategol gydag amcanion a nodau clir ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf. Bydd y prosiect yn gwella cynaladwyedd, hygrededd, eirioli, amrywiaeth ac uchelgais ar gyfer VAGW er mwyn ei wneud yn addas i’w bwrpas o ran cefnogi sector celfyddyd gweledol sy’n fynnu. Bydd y prosiect yn galluogi VAGW i ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol i’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n ein wynebu yng nghyd-destun Cymru – ei hiaith, diwylliant daearyddiaeth, gwleidyddiaeth ac economeg.

Mae’r prosiect yn cynnwys:

  • Adolygu cyfansoddiad, llywodraethiant a rheolaeth VAGW 
  • Adolygu’r diffiniad aelodaeth, gofynion a buddiannau
  • Ymgynghori gydag aelodau cyfredol a’r sector gelf weledol ehangach 
  • Adolygu a chyfathrebu gweledigaeth graidd VAGW, ei genhadaeth a’i werthoedd 
  • Cynnal ymchwil ar fodelau ariannol cynaladwy
  • Ymchwil ynghylch rhaglen gyhoeddus wedi ei weithredu gan VAGW 

Ochr yn ochr â gweithgor VAGW cefnogir y prosiect gan
Melissa Appleton, Artist a chynhyrchydd llaw-rydd
Craig Ashley, Cyfarwyddwr, New Art West Midlands
Sarah Boiling, Ymgynghorydd Annibynnol

Leave a Comment