Gweithdy DPP: Chwilfrydedd; Cyflwyniad i yrfa yn y celfyddydau gweledol 

Hwyluswyr: Chris Mooney-Brown a Sadia Pineda Hameed 

Dyddiad ac Amser 

Dydd Sul, 18 Ebrill, 10.30am – 12.15pm 

Cynhelir y sesiwn hon ar Zoom 

Digwyddiad 

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn cynnal gweithdy Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) sy’n anelu at greu gofod ac amser ar gyfer chwilfrydedd. Mae’r digwyddiad yn ymateb yn uniongyrchol i arolwg diweddar VAGW (COVID-19 a’r celfyddydau gweledol yng Nghymru) gan ganolbwyntio ar y rheiny nad yw VAGW yn cynnig gwasanaeth iddyn nhw ar hyn o bryd.  

Bydd y gweithdy yn fodd i artistiaid chwilfrydig ac artistiaid sy’n ei chael yn anodd sefydlu eu hunain i ymwneud â VAGW am y tro cyntaf. Byddan nhw’n dod i ddeall pa gefnogaeth sydd neu y gall fod ar gael iddyn nhw, ac i ddechrau dychmygu eu llwybrau arbennig nhw i mewn i’r celfyddydau. 

Drwy fynychu’r digwyddiad hwn byddwch yn gallu: 

  • Clywed o lygad y ffynnon oddi wrth yr hwyluswyr ynglŷn â’u teithiau personol nhw i’r sector – dau lwybr gwahanol iawn. 
  • Holi cwestiynau rydych chi wedi bod yn rhy swil neu’n ansicr i’w gofyn o’r blaen. 
  • Cwestiynu lle rydych chi arni ar eich taith bersonol chi a dechrau deall sut i fynd ati i symud i’r cam nesaf. 
  • Rhwydweithio a chyfarfod â phobl greadigol eraill ledled Cymru. 

Rydym yn annog cyfranogwyr i gyflwyno unrhyw gwestiynau sydd gyda nhw ynglŷn â’r sector celfyddydau gweledol cyn y digwyddiad. Bydd pob cwestiwn yn cael ei drin yn ofalus a chael ei gyflwyno i’r hwyluswyr yn ddienw. 

Chwilfrydig ynglŷn â’r sector celfyddydau a sut i gychwyn ar eich llwybr yng Nghymru? 

Bydd cyfle i gyfranogi os ydych chi am wneud. Fodd bynnag, mae modd mynychu’r digwyddiad fel arsylwr yn unig. Gallwch chi ddiffodd eich camera ac rydym yn annog cyfranogwyr i ddefnyddio’r blwch sgwrsio ond mae cwrteisi a pharch at eraill yn orfodol. 

Sut i ymuno 

Rydym yn awyddus iawn i  groesawu’r ystod eangaf o bobl ledled Cymru i gyfrannu at y drafodaeth er mwyn hybu’r  sector. 

Rydym yn croesawu’r ystod eangaf o bobl ledled Cymru sy’n chwilfrydig neu’n ymddiddori yn y celfyddydau gweledol a chymhwysol mewn rhyw ffordd gan gynnwys (ond nid yn gyfan gwbl) myfyrwyr coleg / chweched dosbarth, graddedigion diweddar, rheiny sydd wedi derbyn cyllid dan 5k, artistiaid gweithredol sydd ddim yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth ac ymarferwyr hamdden. 

I archebu eich lle llenwch y ffurflen google hon erbyn canol dydd Sadwrn 17 Ebrill

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu’n ansicr os ydi’r gweithdy’n addas i chi, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau, Rhys Bugler – rhys.mj.bugler@gmail.com 

Os gwelwch yn dda, nodwch yn eich e-bost os oes gyda chi unrhyw anghenion o ran hygyrchedd – dehongli BSL, cyfieithu Cymraeg neu iaith arall, capsiynnu, ayyb. Bydd angen i ni gael gwybod ynglŷn ag unrhyw anghenion erbyn dydd Gwener, 12 Ebrill. Efallai na fyddwn ni’n gallu diwallu eich anghenion oni chawn ni rybudd mewn da bryd.

Leave a Comment