EGWYL: Bwrsari a Rhaglen Fentora cyhoeddiad artistiaid

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn falch iawn o gyhoeddi enwau deiliaid Rhaglen Fwrsari a Mentora Egwyl, a gefnogwyd gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn dilyn 68 sgwrs ac ymweliadau stiwdio ar-lein a gynhaliwyd rhwng Mawrth a Mai 2021, dyma gyhoeddi enw’r pump a delir yn llawn i ymgymryd â’r rhaglen Fentoriaeth a Datblygu Proffesiynol:

Ffion Campbell-Davies

Artist amlddisgyblaeth a Chyfarwyddwr Cysylltiol House of Absolute yw Ffion Campbell-Davies. Cafodd Ffion ei geni a’i magu yng Nghymru ac mae’n siarad Cymraeg. Mae’n ferch anneuaidd o etifeddiaeth gymysg Gymreig a Grenadaidd. Cwblhaodd radd gyda’r London Contemporary Dance School a’r California Institute of the Arts yn 2013. Yn gyfarwyddwr symud a choreograffydd, gellir gweld eu gwaith yn hysbysebion Nurofen ac mae wedi cyflwyno gweithiau llwyfan niferus ar gyfer Richmix, The Place, Neuadd y Dref Shoreditch, The Albany, Bernie Grant, Royal Society of Arts, Now Gallery a’r Kunstraum. Mae wedi teithio yn fyd eang ac wedi gweithio gydag opera Bersaidd a gyfarwyddwyd gan Hossein Hadisi, a’r  Van Huynh Company. Dan gyfarwyddyd Frankie Johnson a’r coreograffwyr Kyoung Shin-Kim a Kim Hyung-Nam mae Ffion wedi perfformio yng ngŵyl MODAFE, Corea ac wedi cynhyrchu traciau sain ar gyfer theatr a pherfformiadau byw gyda ‘Next Day Delivery’ Sadlers Wells Breaking Convention ac artistiaid-gyfarwyddwyr eraill megis Sonny Nuwachuku, Tyrone Isaac Stuart ac Isaac Ouro-Gnao.

Mae Ffion yn gweithio ar y cyd ac fel artist unigol gyda llais, testun, barddoniaeth, symud, a chelfyddyd weledol a digidol. Maen nhw’n cymryd o ddawns gyfoes, hip hop a krump i fynegiant cynhenid o fenyweidd-dra ac ymgorffori duwdod, dylanwadau therapi holistaidd a chrefftau ymladd. Mae eu gwaith yn rhychwantu cerddoriaeth a chynhyrchu ffilm, celfyddyd berfformans arbrofol ac arddangosiaeth. Mae ymarfer Ffion yn archwilio gwleidyddiaeth ddyngarol, seicdreiddio, iaith y corff a’r ysbrydol, o fewn cyd-destun hil, rhywedd, diwylliant a hunaniaeth a chreu drwy ddefod, mynegi agweddau o brofiad dynol, a phontio gofodau o ymbweru hynafiadol yn lleol a rhyngwladol.

@ffioncampbelldavies

Lauren Clifford-Keane

Artist amlddisgyblaeth sy’n byw yng Nghaerdydd yw Lauren Clifford-Keane. Y cyfryngau digidol yw ei phrif ddiddordeb, yn enwedig golygu ffilm a theledu ac ysgrifennu a recordio (ar ei iPhone). Mae ganddi ddiddordeb mewn chwilio ffyrdd creadigol o gyfuno cyfryngau digidol wrth adrodd stori. Mae Lauren wedi cymryd rhan ym mhreswyliad artistiaid ifainc AMPlify, Wysing Arts Centre, y gydweithfa radio Sounding Out, We Are Wales ac yn gyd-grëwr gyda The Democracy Box.

Lal Davies

Mae Lal Davies yn ymdrin â geiriau a delweddau – mae hi’n wneuthurwr ffilm, yn ffotograffydd ac yn fardd. Mae Lal o dras De Indiaidd a Gwyddelig. Ers dod i’r DU cafodd dair cenhedlaeth o’i theulu Indiaidd eu geni yng ngogledd Cymru. Mae ei genre ffilmiau yn y naratif person cyntaf (fformat ffilm-fer) a’r ffilm ddogfen fer, ac yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol, addysg ac etifeddiaeth. Sail ei gwaith yw bod gan bawb stori i’w hadrodd, sydd i’w chlywed orau yng ngeiriau’r adroddwr ac yn gweithredu er mwyn arfogi pobol lle mae eu storïau wedi’u tangynrychioli, cam-glywed neu wedi’u hymylu mewn rhyw fodd. Mae Lal wedi cydweithio gydag unigolion a chymunedau, gyda phobl ifainc a phobl hŷn yng Nghymru a thu hwnt ers 2001. Yn 2020 cynhyrchodd drioleg o brosiectau addysg ffilm gwrth-hiliol ar gyfer athrawon a dysgwyr. Ar hyn o bryd mae’n cynhyrchu’r ffilm ddogfen Embedding Equality in the Curriculum ac yn gweithio fel Ymarferydd Creadigol ar gyfer Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru.

Yng nghyd-destun ei hymarfer creadigol ei hun, mae Lal yn ymddiddori fel ei gilydd yn y defnydd o ffilm, ffotograffiaeth a barddoniaeth fel disgyblaethau ar wahân ac ar yr ymylon niwlog rheiny lle maen nhw’n cyfarfod, er mwyn adrodd ambell un o’i straeon ei hun. Mae ei gwaith yn ymchwilio ei pherthynas hi ei hun gyda byd natur, naratifau ôl-drefidigaethol yng Nghymru, hil a gwahaniaeth gweledol a themâu eangach cariad a cholled. Mae Lal newydd gwblhau blwyddyn gyntaf ei gradd Meistr Ymarfer Celfyddyd drwy ffilm a ffotograffiaeth.

Ym Mai 2021 dangosodd Lal ei ffotograffwaith gyntaf. Yn rhan o gyfres ffotograffig barhaus mae Like for Like wedi’i seilio ar ei hangen ei hun i weld wynebau brown a du mewn poblogaeth sydd i raddau helaeth yn wyn. Detholwyd a dangoswyd y gwaith ar gyfer cyfres Ffenestri Agored Oriel Colwyn ym Mae Colwyn. Mae hi hefyd yn gweithio gyda’r bardd a’r gwneuthurwr ffilm Jan Miller ar  ei chasgliad barddoniaeth Lal Stories We Cannot Tell.

laldaviesma.wordpress.com
laldaviesmasters.wordpress.com
@laldffilmiau

Marva Jackson Lord

Mae Marva Jackson Lord yn artist amlddisgyblaeth Jamaicaidd-Canadaidd. Mae’n gweithio gyda chyfryngau gweledol ac ysgrifenedig, gan gynnwys ffotograffiaeth, barddoniaeth, fideo a sain ac yn datblygu gwaith cerddorol a chelfyddyd draddodiadol gan ddefnyddio offer digidol. Ganed yn Kingston, Jamaica a’i chodi yn Ontario, Canada ac mae hi wedi byw yng Nghymru am bron i 20 mlynedd.

Ei chyfnod fel y ferch ddu gyntaf i fod yn DJ yng Nghanada ar gyfer gorsaf radio gymunedol ckln-fm  oedd man cychwyn ei hymwneud â’r celfyddydau. Ymhlith ei gweithgaredd amrywiol yn gweithio fel DJ, beirniadu llenyddol, mabwysiadu tech yn gyntaf / cynnar,  hyrwyddo digwyddiadau, gweithio yn y gymuned a threfnu, roedd hi’n un o benseiri’r Canadian Artists Network: Black Artists In Action (CANBAIA), sefydliad a ffurfiwyd i helpu agor y ffordd ar gyfer cyllido a hyrwyddo gwaith artistiaid Du i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol Ar ôl symud i’r DU, fel rhan o Fis Hanes Du 2004 a 2005 dyma Marva yn cynhyrchu a chynnal dau ddigwyddiad blynyddol ym Mhowys o’r enw’r Black Cultural Fest lle am un diwrnod ac un noson yn unig roedd Neuadd Baskerville, ger y Gelli Gandryll yn fforwm ar gyfer ystod amrywiol o gelfyddydau a diwylliant Du.

Mae gwaith Marva wedi’i ysbrydoli gan y gwledig a’r trefol, ac wedi’i ddylanwadu’n arbennig gan ei chysylltiadau personol â Bannau Brycheiniog; Llundain; Ynys Sapelo, Georgia; Ontario wledig a Toronto, Canada, ac atgofion ei blynyddoedd cynnar yn Jamaica. Yn ychwanegol at hyn mae cymysgedd o’r cysyniadol, yr ôl-fodernaidd, pop, yr haniaethol a’r swrreal mewn celfyddyd weledol, lenyddol a chlywedol wedi creu argraff arni ac mae wedi’i dylanwadu gan athroniaeth a gwaith Adrian Piper, Lillian Allen, M. NourbeSe Philip, Frantz Fanon, Toni Morrison, bell hooks, Gayl Jones, T. S. Eliot, e. e. cummings, a Malcolm X.

griots.net/

Umulkhayr Mohamed

Llenor ac artist Somalïaidd o Gymru yw Umulkhayr Mohamed (hi/nhw). Mae ei hymarfer celfyddydol yn ymwneud â barddoniaeth, y ddelwedd symudol a gwaith perfformans sy’n ymchwilio’r tyndra sy’n bodoli rhwng mwynhau’r weithred o grwydro rhwng byrhoedleddau gwaredol a’r angen gweithredol i leoli’ch hun yn y nawr. Mae’r tyndra hwn yn arwyddocaol yn ei hymarfer gan ei fod yn rhoi llais i’r modd y mae’n cael ei denu i greu gwaith ag osgo amharchus iddo, ac mae’n ei rhyddhau i greu yn y ffordd hon wrth werthfawrogi hefyd y gallu i wreiddio’i gwaith mewn perthynas â’r gwirioneddau hynny a rennir.

Ei chelf yw’r lle y mae modd hepgor ymhoniadau a hierarchaethau gan roi undod a rhyddid yn eu lle, er mwyn cyfranogi at erydu’r ffiniau rhwng pethau a datgelu’r cyflawnder sy’n gorwedd oddi tano.

Mae’n gweld ei chelfyddyd fel ffordd o egluro teimladau ynghylch deuoliaeth a fyddai fel arall yn niwlog drwy broses o ddistyllu barddonol. Er nad yw yn fynegiant sy’n gyfyngedig i hyn, mae’r gwaith yn deillio ac wedi’i ffurfio gan ei lleoliadaeth. Yn hytrach, dyma ei ffordd o gydnabod sut y mae cyd-destun yn rhoi gwybodaeth ac yn ffurfio ystyr ynghyd â gwrthweithio normaleiddio hegemonaidd ambell gyd-destun.

@thetweetsofum
@thepolaroidsofum


Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddilyn sut y bydd y pum mentoriaeth yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf, wrth gadw mewn cysylltiad â chefnogi ymgeiswyr eraill Egwyl yn eu priod weithgaredd yn unol ag addewid VAGW – sef yr ymrwymiad i fod yn agored, hygyrch ac ar gael ar gyfer eu cynorthwyo i wneud cynnydd yn eu gwaith a’u gyrfaoedd yn awr ac yn y dyfodol.

Fel aelod o Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru, rydym ni fel sefydliad yn addunedu i gadw mewn cysylltiad â phob ymgeisydd Egwyl gan gynnig ymweliadau stiwdio, sesiynau un-wrth-un a chyswllt llinell agored ar gyfer cyngor ac adnoddau lle bo modd. Dymunwn greu amgylchedd drws agored o fewn y celfyddydau gweledol yng Nghymru yn enwedig ar gyfer y rheiny sy’n teimlo ei fod yn fyd sy’n gaeedig iddynt.

Arweiniwyd y 68 sgwrs ac ymweliadau stiwdio ar-lein gan y Cydlynydd Mentora Sadia Pineda Hameed ynghyd â churadur gwadd o blith y sefydliadau sy’n aelodau o VAGW fel a ganlyn:

Melissa Appleton – Cyfarwyddwr Creadigol, Peak 
Simon Burgess – Rheolwr, Urdd Gwneuthurwyr Cymru
Letty Clarke – Curadur Rhaglenni Cyhoeddus, Artes Mundi
Alfredo Cramerotti – Cyfarwyddwr, MOSTYN
David Drake – Cyfarwyddwr, Ffotogallery
Melissa Hinkin – Curadur, Artes Mundi
Steffan Jones Hughes – Cyfarwyddwr, Oriel Davies 
Charlotte Kingston – Curadur Artistig, Urdd Gwneuthurwyr Cymru
Karen MacKinnon – Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian 
Jo Marsh – Cyfarwyddwr Creadigol, Tŷ Pawb
Sarah Pace – Cyd-gyfarwyddwr, Addo
Nigel Prince – Cyfarwyddwr, Artes Mundi