Mae Visual Arts Group Wales (VAGW) yn chwilio am Weinyddwr llawrydd i gefnogi pob maes o’n gweithrediadau a’n polisïau.
Mae’r swydd hon yn golygu 100 diwrnod o waith am £250 y diwrnod, i’w chwblhau rhwng Gorffennaf 2025 – 30 Mehefin 2026.
Bydd y rôl yn darparu cymorth gweinyddol ar draws holl feysydd VAGW, yn cynnwys:
- helpu i adolygu a gweithredu polisïau Adnoddau Dynol
- amserlennu cyfarfodydd a chymryd cofnodion
- creu deunydd marchnata
- rheoli’r cyfryngau cymdeithasol
- cysylltu ag aelodau VAGW
- helpu’r trysorydd gydag adrodd, drafftio cyllidebau, a thasgau gweinyddol ariannol eraill
Mae’r swydd hon yn rhan o gyflawni ‘Datblygiad Strategol VAGW’ a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn helpu gyda’r ymchwil a’r gweithredu.
Dyddiad cau: 9am Dydd Llun 14 Gorffennaf
Dyddiad y Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 28 Gorffennaf 2025
Byddwch cystal â darllen ein Disgrifiad Swydd llawn cyn ymgeisio: Disgrifiad Swydd Gweinyddwr Cymraeg
I YMGEISIO:
Anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol (o hyd ar 500 o eiriau) yn disgrifio eich profiad perthnasol a’ch diddordeb yn y swydd at visualartsgroupwales@gmail.com gyda’r llinell pwnc: Gweinyddwr VAGW.
Rhaid cyflwyno Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal wedi’i chwblhau gyda phob cais.
Byddwch cystal â chyflwyno eich cais cyn 9am dydd Llun 14 Gorffennaf 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r swydd hon neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â’r Cyd-gadeiryddion presennol, Louise Jones-Williams (louisejw@llantarnamgrange.com) neu Nigel Prince (Nigel.Prince@artesmundi.org)
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
